This site uses Google Analytics cookies to track visitor statistics.
For more information and links to our privacy policy please click here.

Accept & Dismiss Notification

Amdanom Ni a Chyflwyniadau

Cyhoeddwyr llyfrau plant preifat, teuluol yw Cyhoeddiadau Rily. Cafodd ei sefydlu pan benderfynodd Richard a Lynda Tunnicliffe, sy'n ŵr a gwraig, ddechrau cyhoeddi fersiynau Cymraeg o lyfrau poblogaidd o ran diddordeb yn 2001.

Ers hynny maen nhw wedi graddol gynyddu eu catalog o lyfrau plant Cymraeg a llyfrau dwyieithog. Rydyn ni'n cyhoeddi llyfrau plant Cymraeg a dwyieithog o safon. Rydyn ni'n dysgu Cymraeg. Rydyn ni'n credu'n gryf mewn llyfrau dwyieithog i blant gan eu bod nhw'n ein helpu ni i ddarllen i'n plant yn Gymraeg a hefyd i ddilyn rhediad y stori ar yr un pryd. Rydyn ni o hyd yn ychwanegu at y llyfrau sydd ar gael ac rydyn ni wrth ein boddau pan fydd ein darllenwyr yn rhoi adborth i ni.

Rydym yn croesawu cyflwyniadau

Mae nifer fawr o deitlau Rily yn addasiadau o lyfrau sydd eisoes yn bodoli, ond mae gennym ni ddyraniad bach o gynnwys gwreiddiol bob blwyddyn. Rydym yn dibynnu ar Gyngor Llyfrau Cymru i gyfrannu at gyllid ar gyfer y prosiectau yma, ac mae’r broses yn gystadleuol iawn. Fodd bynnag, rydym yn croesawu ceisiadau gan awduron, darlunwyr a dylunwyr o bob cefndir, gan gynnwys siaradwyr di-Gymraeg. Os oes gennych chi stori wych i'w hadrodd, neu ddawn artistig i'w rhannu, rydym yn eich annog i gysylltu.

About Us & Submissions
Contact Us
Terms & Conditions
Privacy Policy
Ethics & Sustainability
© 2024 Rily Publications. All rights reserved.