Mae’n bleser gennym ddarparu adnoddau rhad ac am ddim sy’n gysylltiedig â’n llyfrau newydd gwych, PEDAIR CAINC Y MABINOGI/ THE FOUR BRANCHES OF THE MABINOGI, ac mae croeso i athrawon eu lawrlwytho. Mae’r rhain yn gyfrolau godidog sy’n ailadrodd straeon enwog Y MABINOGI. Cewch strwythur cynlluniau gwersi ar gyfer STORI BRANWEN (yn Gymraeg ac yn Saesneg) yn ogystal â chynlluniau ar gyfer Llythrennedd a Rhifedd. Mae map meddwl a syniadau trawsgwricwlaidd ar gyfer pob stori yn y gyfrol yn ogystal.