This site uses Google Analytics cookies to track visitor statistics.
For more information and links to our privacy policy please click here.

Accept & Dismiss Notification

Llyfrau Addysgol > Natur (Topig)

Grŵp Oedran: 0+ 5+
Fformat: Clawr caled

Awdur: Axel Scheffler
Cyfieithydd: Mari George

Disgrifiad: Caiff plant ifanc hwyl ar y fferm drwy gyfrwng testun sy'n odli ac wrth dynnu a gwthio tabiau, gan beri i'r anifeiliaid symud a chreu synau! Dewch i gwacian gyda'r hwyaid, brefu gyda'r gwartheg a gweryru gyda'r ceffylau!
Grŵp Oedran: 11+ 5+ 7+
Fformat: Clawr caled

Awdur: Susie Behar
Cyfieithydd: Elin Meek

Disgrifiad: Beth sydd i'w weld ar y fferm heddiw? Gyda chymorth y llyfr goleuo'r dudalen hwn, sy'n cynnwys gwaith celf hyfryd, cewch ddysgu am ffermio drwy'r tymhorau, yn cynnwys magu cywion anifeiliaid a thyfu a chynaeafu cnydau. Cewch hefyd ddarganfod...
Grŵp Oedran: 0+ 5+
Fformat: Clawr caled

Awdur: Campbell books
Cyfieithydd: Catrin Wyn Lewis

Disgrifiad: Beth am fynd ar daith i fyd y deinosoriaid? Bydd plant bach yn dysgu am y byd o'u cwmpas yn y llyfr hwylus a rhyngweithiol hwn.
Grŵp Oedran: 5+ 7+
Fformat: Clawr caled

Awdur: Carron Brown
Cyfieithydd: Elin Meek

Disgrifiad: Beth sy'n byw yn yr ardd lysiau? Rho olau y tu ôl i'r dudalen, a dod o hyd i fyd bach yn llawn o ryfeddodau mawr! O godau pys sy'n agor i fwydod gwinglyd, bydd rhyfeddodau cudd y byd prysur hwn yn dod i'r golwg.
Grŵp Oedran: 5+ 7+
Fformat: Clawr caled

Awdur: Priddy
Cyfieithydd: Siân Lewis

Disgrifiad: Dewch wyneb yn wyneb â 26 deinosor rhyfeddol, yn cynnwys y Ffabrosorws, yr Yingshanosorws, y Leptoceratops a'r Baryonics. Beth maen nhw'n fwyta? Pa mor fawr ydyn nhw? Darllenwch am eu pigau, eu crafangau, eu dannedd miniog a llawer mwy!
Grŵp Oedran: 5+ 7+
Fformat: Clawr caled

Awdur: Carron Brown
Cyfieithydd: Elin Meek

Disgrifiad: Cyfrol ddarluniadol hardd sy'n cyflwyno cyfrinachau a llawenydd byd natur i blant, wrth iddynt ddysgu am y creaduriaid bach sy'n byw mewn coeden. Addasiad Cymraeg o Secrets of the Apple Tree gan Elin Meek.
Grŵp Oedran: 0+ 5+ 7+
Fformat: Clawr meddal

Awdur: Astley/Baker/Davies
Cyfieithydd: Owain Sion

Disgrifiad: Wrth i Taid Mochyn fynd â Peppa a George o gwmpas yr ardd, maen nhw'n gweld llawer o greaduriaid bychain o bob lliw a llun!  
Grŵp Oedran: 5+ 7+
Fformat: Clawr caled

Awdur: Sarah Powell
Cyfieithydd: Bethan Mair

Disgrifiad: Dere i ddarganfod gwybodaeth am y goedwig law yn y llyfr cyfeirio/ffeithiau cyffrous hwn! Cei ddod i wybod am yr anifeiliad anhygoel sy'n byw yno, y planhigion sy'n tyfu a'r coedwigoedd glaw di-ri ledled y byd.
Amdanom Ni a Chyflwyniadau
Cysylltu
Termau a Thelerau
Polisi Preifatrwydd
Moesegau a Chynaliadwyedd
© 2024 Cyhoeddiadau Rily. Cedwir pob hawl.